DATHLU’R 90
Ymgyrch Tŷ’r Cymry
Nid ymgyrch i achub adeilad yn unig yw hon. Mae’n ymgyrch i ail-ddychmygu beth all Tŷ’r Cymry fod i Gaerdydd heddiw, ac i’r dyfodol.
Byddwch yn rhan o bennod nesaf Tŷ’r Cymry
Ar ôl blynyddoedd o waith tu ôl i’r llenni, rydym bellach mewn sefyllfa i edrych ymlaen. Mae’r gwaith cyfreithiol wedi’i gwblhau. Mae’r elusen yn ei lle.
Nawr, mae’n gyfle i siapio’r dyfodol.
Beth yw’r camau nesaf?
Rydym eisiau gweld Tŷ’r Cymry yn datblygu fel lle byw, defnyddiol a chroesawgar. Nid adeilad i’w gadw ar glo yw’r nod, ond cartref cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl, mudiadau, dysgwyr, siaradwyr Cymraeg a phawb sy’n cefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae gan y pwyllgor newydd gyfle nawr i benderfynnu:
- Beth fydd defnydd y tŷ
- Sut gall y ty gyfranu i ddiwyddiant Cymreig yr ardal
- Gwireddu potential y tŷ
“Rhodd i Gymry Cymraeg Caerdydd oedd Tŷ’r Cymry gan Lewis Williams o’r Barri ym 1936. Ei fwriad oedd darparu cyfle i Gymry Cymraeg ymgynnull, i fudiadau Cymreig gyfarfod i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant ac i weithio tuag at “statws dominiwn” i Gymru.”
Y Dinesydd, Ebrill 2006
Sut mae helpu?
Mae nifer o bethau y gallwch chi wneud i helpu pwy bynnag ydych chi ym mha bynnag ran o’r byd. O fod yn ran o’r pwyllgor sydd yn llywio’r gwaith i fod yn rhywun sydd yn cyfannu’n ariannol bob mis i gadw’r adeilad ar agor.
- Gwneud cais i ymuno a’r pwyllgor
- Cyfrannu’n fisol fel ffrind i’r achos
- Gwirfoddoli yn y tŷ – glanhau, gwarchod, ayyb
- Cyfrannu syniadau
Ffrindiau’r Achos
Byddwch yn rhan o’r ymgrych
Rydym yn symud yr ymgyrch yn ei blaen ac yn gwahodd pobl i fod yn rhan o greu dyfodol newydd i Dŷ’r Cymry.
