Ffrindiau i’r Achos

Rhoddion misol at yr ymgyrch i gynnal a chadw’r tŷ

Cefnogwch ddyfodol y tŷ, fis ar ôl mis

Drwy gyfrannu swm misol, byddwch yn helpu’r elusen i gynnal yr adeilad, talu costau rhedeg, cynllunio gwelliannau a sicrhau bod Tŷ’r Cymry yn parhau i fod yn un o gartref i’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd.

Pam dod yn Ffrind?

Mae adeilad fel Tŷ’r Cymry angen gofal cyson.

Mae biliau i’w talu, gwaith cynnal a chadw i’w wneud, atgyweiriadau i’w rheoli a gwelliannau i’w cynllunio. Weithiau mae’r gwaith yn fach ac ymarferol. Weithiau mae angen meddwl yn fwy hirdymor am sut i ddiogelu’r adeilad a’i wneud yn fwy defnyddiol i’r gymuned.

Mae incwm rheolaidd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n helpu’r elusen i symud oddi wrth ymateb i broblemau fesul un, ac yn rhoi’r gallu i gynllunio’n well.

Fel Ffrind i Dŷ’r Cymry, bydd eich cyfraniad yn helpu i gadw’r tŷ ar agor, yn ddiogel, yn weithredol ac yn barod ar gyfer mwy o ddefnydd cymunedol dros amser.

“Rhodd i Gymry Cymraeg Caerdydd oedd Tŷ’r Cymry gan Lewis Williams o’r Barri ym 1936. Ei fwriad oedd darparu cyfle i Gymry Cymraeg ymgynnull, i fudiadau Cymreig gyfarfod i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant ac i weithio tuag at “statws dominiwn” i Gymru.”

Y Dinesydd, Ebrill 2006

Beth fydd eich cyfraniad yn ei gefnogi?

Bydd cyfraniadau misol gan Ffrindiau Tŷ’r Cymry yn cefnogi gwaith parhaus yr elusen, gan gynnwys:

  • costau rhedeg y tŷ
  • biliau, yswiriant a gwasanaethau hanfodol
  • gwaith cynnal a chadw cyffredinol
  • atgyweirio problemau wrth iddynt godi
  • gwelliannau bach i wneud y tŷ yn fwy defnyddiol
  • cynllunio ar gyfer gwaith mwy dros y tymor hir
  • cefnogi gweithgareddau a defnydd cymunedol newydd

Ffrindiau’r Achos

Byddwch yn rhan o’r ymgrych

Rydym yn symud yr ymgyrch yn ei blaen ac yn gwahodd pobl i fod yn rhan o greu dyfodol newydd i Dŷ’r Cymry.