DATHLU’R 90

Ymgyrch Tŷ’r Cymry

Nid ymgyrch i achub adeilad yn unig yw hon. Mae’n ymgyrch i ail-ddychmygu beth all Tŷ’r Cymry fod i Gaerdydd heddiw, ac i’r dyfodol.

Byddwch yn rhan o bennod nesaf Tŷ’r Cymry

Ar ôl blynyddoedd o waith tu ôl i’r llenni, rydym bellach mewn sefyllfa i edrych ymlaen. Mae’r gwaith cyfreithiol wedi’i gwblhau. Mae’r elusen yn ei lle.

Nawr, mae’n gyfle i siapio’r dyfodol.

Beth yw’r camau nesaf?

Rydym eisiau gweld Tŷ’r Cymry yn datblygu fel lle byw, defnyddiol a chroesawgar. Nid adeilad i’w gadw ar glo yw’r nod, ond cartref cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl, mudiadau, dysgwyr, siaradwyr Cymraeg a phawb sy’n cefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae gan y pwyllgor newydd gyfle nawr i benderfynnu:

  • Beth fydd defnydd y tŷ
  • Sut gall y ty gyfranu i ddiwyddiant Cymreig yr ardal
  • Gwireddu potential y tŷ
 

“Rhodd i Gymry Cymraeg Caerdydd oedd Tŷ’r Cymry gan Lewis Williams o’r Barri ym 1936. Ei fwriad oedd darparu cyfle i Gymry Cymraeg ymgynnull, i fudiadau Cymreig gyfarfod i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant ac i weithio tuag at “statws dominiwn” i Gymru.”

Y Dinesydd, Ebrill 2006

Sut mae helpu?

Mae nifer o bethau y gallwch chi wneud i helpu pwy bynnag ydych chi ym mha bynnag ran o’r byd. O fod yn ran o’r pwyllgor sydd yn llywio’r gwaith i fod yn rhywun sydd yn cyfannu’n ariannol bob mis i gadw’r adeilad ar agor.

  • Gwneud cais i ymuno a’r pwyllgor
  • Cyfrannu’n fisol fel ffrind i’r achos
  • Gwirfoddoli yn y tŷ – glanhau, gwarchod, ayyb
  • Cyfrannu syniadau

Ffrindiau’r Achos

Byddwch yn rhan o’r ymgrych

Rydym yn symud yr ymgyrch yn ei blaen ac yn gwahodd pobl i fod yn rhan o greu dyfodol newydd i Dŷ’r Cymry.