Cartref i’r Gymraeg a’r Gymuned yng Nghaerdydd

Gyda’ch cymorth chi, gallwn gadw’r adeilad hanesyddol hwn yn fyw a’i droi’n fan i’r Gymraeg, i’r gymuned, ac i syniadau newydd yng Nghaerdydd ffynnu.


Hanes Tŷ’r Cymry

Yn 1936, rhoddodd Lewis Williams, ffermwr o’r Fro, y tŷ Fictoraidd ar 11 Heol Gordon, Y Rhath i’r gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd. Ei weledigaeth oedd creu cartref parhaol i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y brifddinas.Am dros 75 mlynedd, bu’r tŷ yn ganolfan i sawl mudiad ac ymgyrch: Plaid Cymru, Urdd Gobaith Cymru, UCAC, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac eraill.Pan ddaeth heriau diweddar, ac ystyriwyd gwerthu’r adeilad, cododd y gymuned i weithredu. Cadwyd y tŷ er cof am y rhodd wreiddiol, ac er budd y genhedlaeth sydd i ddod.



Heddiw

Rhwng 2022 a 2025, sefydlwyd Elusen newydd i gymryd meddiant o’r tŷ ac i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy. Mae’r elusen yn weithgar ac wedi bod yn gweithio'n galed i gwblhau'r gwaith cyfreithiol.Heddiw, mae’r tŷ yn fyw unwaith eto gyda thenantiaid hen a newydd wedi bod yn edrych ar ôl y tŷ yn y cyfamser. Mae’r adeilad yn sefyll, fel erioed, yn symbol o ddyheadau’r Gymraeg yng Nghaerdydd.



Ein Gweledigaeth

Mae'r elusen newydd wedi ei sefydlu ac mae hi nawr yn amser i edrych am bwyllgor brwdfrydig i arwain ar y gwaith. Mae rhai o'r nodau cyffredinol yn cynnwys:

  • Creu canolfan gymunedol Gymraeg yng nghanol Caerdydd.

  • Adfer a chynnal yr adeilad hardd, gan sicrhau ei fod yn gwasanaethu’r gymuned am genedlaethau i ddod.

  • Datblygu rhaglenni diwylliannol, addysgol a chymunedol.

  • Sicrhau grantiau a chefnogaeth er mwyn cynnal y gwaith.

  • Bod yn le agored i bawb, yn groesawgar i’r Cymry a’r di-Gymraeg fel ei gilydd.

1. Creu Pwyllgor

Byddwn yn gwahodd pwyllgor newydd i arwain ar yr elusen.

2. Creu Strategaeth

Bydd y pwyllgor newydd yn gosod geledigaeth a strategaeth newydd.

3. Creu Dyfodol

Bydd y gwaith newydd hwn yn hollbwysig i ddyfodol yr elusen.


Diddordeb bod yn rhan o'r prosiect?

Rydyn ni ar drothwy cyfnod newydd cyffrous i Dŷ’r Cymry. Bydd angen pobl frwdfrydig, egniol ac ymrwymedig i helpu siapio’r dyfodol, boed hynny drwy ddod yn aelod o’r pwyllgor newydd, gwirfoddoli mewn digwyddiadau, cynnig arbenigedd neu gefnogaeth ariannol. Cysylltwch er mwyn dangos diddordeb.


© tyrcymru. Rhif Elusen 1207116 – Comisiwn Elusennau

Diolch am gysylltu â Thŷ’r Cymry

Rydyn ni wedi derbyn eich neges ac mae’n golygu llawer i ni eich bod yn cymryd yr amser i gysylltu. Bydd rhywun o’n tîm yn ateb cyn gynted â phosibl.